24/11/2013

Negas o'r Anialwch 023



Sgwenna sylwadau neu rhywbeth arall HEB mynd drwy proses o cofrestru!
Clicia fenast 'Comment as:' o dan 'Anonymous'
Mae fyny i chdi: cei roi dy enw iawn neu ddim enw! Hwyl a chofion ac edrych ymlaen i weld sylwadau.
Bryn Jones

1 comment:

  1. Tydi'r gair universalism ddim yn cyfieithu yn hawdd - cyffredinoliaeth yn ol Geiriadur yr Academi. Mae'r Undodiaid ym yr UDA yn galw eu hunain felly.
    Dwn i ddim os yw hynny yn edwino. bellach mae'r ddadl, hyd ac y gwelaf ynglyn a bod yn theistaidd neu ddim. Caiff le amlwg yng ngohebiaeth The Friend.
    Yn bersonol os nad yw'r Gymdeithas yn rhan o'r eglwys Gristnogol yna nid yw ddim, oherwydd tydw i ddim am greu crefydd newydd!! Rhaid inni fod yn rhan o'r hyn sydd ac allwn ni ddim yn hawdd fod yn rhan o fyd Islam ayyb, er gallaf weld y gallwn ac y dylsem ddysgu yn barhaus gan grefyddau eraill.
    Oni allasem gael cyfarfod Crynwrol ynghanol cadeirlan? Gobeithio felly. Peth allanol i'w anwybyddu yw'r groes, os y dymunem, ac ni ddylsem gynhyrfu os yw yn bresennol. Falia i ddim beth fuasai George Fox yn ei ddweud.
    Bum yn rhan o'r drafodaeth ynglyn ac ymuno a'r CCBI a Chytun ac fe wnaed y penderfyniad cywir, gan fod inni peth ddylanwad o hyd yn eu mysg. Credaf hefyd fod rhan o'r eglwys fyd-eang yn dangos mwy o diddordeb mewn heddwch ac yn edrych tuag at yr eglwysi heddychol am arweiniad.
    Dyna ddigon.

    ReplyDelete