01/12/2013

Negas o"r Anialwch 024



Sgwenna sylwadau neu rhywbeth arall HEB mynd drwy proses o cofrestru!
Clicia fenast 'Comment as:' o dan 'Anonymous'
Mae fyny i chdi: cei roi dy enw iawn neu ddim enw! Hwyl a chofion ac edrych ymlaen i weld sylwadau.
Bryn Jones

1 comment:

  1. Wel dyma ni ego. Magwyd finna heftd gyda'r Hen Gorff a troi at y Crynwyr yn 1970 ac ers hynny wedi cyfrannu y gorau ac y gallaf at ddatblygiad y Gymdeithas.
    Nid yw'r groes yn creu unrhyw bryder imi ond fe fuaswn yn teimlo yn anghyffyrddus petai rhywun yn mynnu fod yn rhaid iddi fod yn bresenol i sancteiddio addoliad jeu i nesau at wraidd y Dwyfol.
    Ymhyfrwydwn yn swn Requiem Mozaet, Verdi neu Brahms ac feely gyda'r groes gredwn i, ar amrant am gyfnod. Fyddwn ni ddim yn gwrando ar y requiem pob eiliad ond weithiau ac mae'r gwrando yn agor y meddwl ac yn cynhyrfu'r emosiynau. Felly gyda';r groes nid fel teclyn i';w addoli ond fel rhywbeth sydd yn atgoffa ac yn symbol. Gallaf dderbyn fodd bynnag mai peth oeraidd iawn ydyw i rai.
    Credaf fod ganddom ddogma fodd bynnag os yr edrychwn ar y Gymdeithas yn ei chyfanrwydd bydol. Yma ym Mhrydain nid yw mor glywadwy ond mae rhannau o'n trafod a'n siarad bron yn ddogma: "Yr hyn sydd o Dduw ymhob un' er engraifft. Gall y Cynnghorion a Holiadau hefyd droi yn Rodd Mam o ddogma er yn anorthodocs i rai
    Wrth imi heneiddio rhaid imi gyfaddef fod swn yr emyn a'r don yn chwarae rhan bwysig yn fy nhawelwch a distawrwydd y Cwrdd a gallaf glywed swn y canu godidog yn y Gymanfa yn Capel Seilo, Moreia ac Engedi, ond efallai fod hynny fwy i wneud a chofio fy rhieni yn taro'r nodau.
    Y peth pwysig i'w trafod llwybyr sydd yn berthnasol i'r unigolyn ond sydd hefyd yn plethu i ofynion a disgyblaeth y grwp. Amen

    ReplyDelete