15/09/2013

Y Negas Rhif. 013 am Gwrthdaro ymhlith Cyfeillion




Sgwenna sylwadau neu rhywbeth arall HEB mynd drwy proses o cofrestru!
Clicia fenast 'Comment as:' o dan 'Anonymous'
Hwyl a chofion ac edrych ymlaen i weld sylwadau.
Bryn Jones

2 comments:

  1. Diolch Bryn. Mond gobeithio y bydd hwn yn ddarllenadwy ac ddim yn diflannu!
    Un pthe bach - dy gerddoriaeth agoriadol - o'i glywed rwyf yn disgwyl Boris Karloff ymddangos!!!!!
    Dwn i ddi beth i'w ddweud. Ers 1850 prin fu y Crynwyr Cymraeg eu hiaith yn y Cyfarfod Blynyddol. Dau efallai oddeutu 1890 ac un o rheini wedi dysgu Cymraeg. Gwestiwn gen i felly os gall y Cymry Cymraeg gynnal unrhyw beth gyda 'g unrhyw sicrwydd. Rydym, fe gredaf rhy wan i gynnal unrhyw beirianwaith sefydlog. Ond efallai mai nid dyna yw'r nod.
    Defnyddiaf y Gymraeg yng nghwrdd Aberystwyth, er mai fi yw'r unig frodor Cymreag ei iaith yn y cwrdd, ac un mynychwraig, ond mae sawl un wedi dysgu a dau yn eitha rhugl. Gellir felly weinidogaethu yn Gymraeg ac os yn dewis does dim rhaid cyfieithu. Annodd gweld unrhyw gwrdd yn cynnal ei hunan yn GYmraeg os oes drws agord i bawb addoli a ni - ni ddylsai iaith fod yn bwysig i'r addoliad. Cyfyd y broiblem wedyn pan yn cymdeithasu neu yn trafod busnes. Efallai ein bod fel defaid yn dilyn cynffonau ein gilydd ac angen gfyn pwy sydd yn arwain.
    Rydym wedi symyd rhywfaint i adgyfnerthu ein hunaniaeth Cymreig o fewn y CB ac mae lee i fynd ymhellach ond prin y bydd y rhan fwyad o'n haelodau yn malio im am hynny. Yn anffodus nid yw y Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru yn denu nac o ddiddordeb i lawer. Gwel rhai ef fel rhywbeth diangen. Piti hynny.
    Teimlo yn aml fod y Crynwyr yn hoffi son am 'wahaniaeth' diversity ond cyn belled a bod hynny yn cael ei weld o safbwynt anglocentric.
    Oer yma gobeithio fod Sofia yn gnesach.
    Hwyl

    Gethin

    ReplyDelete